Mae profiadau myfyrwyr Dosbarth 2022 Patrymau Arwyneb a Thecstilau yn hollol wahanol i unrhyw grŵp blwyddyn blaenorol. Am y tair blynedd ddiwethaf maent wedi teimlo effaith y pandemig, ac i’r rhan fwyaf o’r grŵp hwn, hynny yw pob blwyddyn o’r amser a dreulion nhw yn y brifysgol. Rywsut, drwy’r cyfnod heriol hwn, rydym ni wedi pacio popeth i mewn, ac maen nhw wedi gwneud mwy na chyflawni.
Nodweddir y garfan hon gan rai o’r prosiectau gwych maen nhw wedi cymryd rhan ynddynt. I’r myfyrwyr 3edd flwyddyn y rhain yw idott, Patternbank a Rolls Royce, gyda’n myfyriwr graddedig MDes yn cymryd rhan ym mhrosiectau llwyddiannus iawn Sain Ffagan ac Orangebox. Mae’r ffaith bod y byd dylunio wedi parhau i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o ddoniau drwy brosiectau fel y rhain ac wedi rhannu ein brwdfrydedd am egni a ffresni syniadau, sgiliau ac arloesi’r myfyrwyr, wedi ein hysbrydoli i gyd.
Yn ddiweddar mae wedi bod yn fraint i ni groesawu ymwelwyr yn ôl i’r campws, ac roedd eu syndod wrth weld ein harddangosfa ddiweddar Rolls Royce x Eich Gweledigaeth a Sioe Raddio 2022 yn amlwg. Mae gallu dathlu creadigrwydd, dylunio a gwneuthur gyda’n gilydd o Gampws Dinefwr annwyl wedi bod yn ffarwel deilwng i Ddosbarth 2022.
Mae’r myfyrwyr hyn yn deall pwysigrwydd dylunio a’r rôl mae’n ei chwarae yn ein cymdeithas. Rydym ni’n falch dros ben ohonyn nhw. Rydym ni’n optimistaidd ar gyfer Dosbarth 2022 ac yn gobeithio aros mewn cysylltiad wrth iddyn nhw barhau i dyfu a llywio eu ffordd o gwmpas eu meysydd creadigol newydd.
Y Tîm Patrymau Arwyneb a Thecstilau xxx