Ffotograffiaeth

Mae byw trwy bandemig byd-eang wedi gyrru newid drastig i’n cyd-destunau cymdeithasol, amgylcheddol, ac economaidd, yn enwedig ein perthynas â thechnolegau ffotograffig. Mae addasu i ffyrdd newydd o fyw wedi rhoi cyfle unigryw i ni i adfyfyrio ar a chwestiynu’r oes sydd ohoni mewn ffyrdd na fyddem fyth wedi gallu eu dychmygu dwy flynedd ynghynt. 

Mae ‘Estron’ yn ddistylliad o’r gwaith ffotograffig a gynhyrchwyd gan fyfyrwyr BA (Anrh) Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau a BA (Anrh) Ffotograffiaeth Ddogfennol a Gweithredaeth Weledol yng Ngholeg Celf Abertawe, Y Drindod Dewi Sant. Gan archwilio cwestiynau personol, cymdeithasol, gwleidyddol ac amgylcheddol cymhleth, mae’r artistiaid hyn yn ceisio cyfleu’n weledol datblygiad eu syniadau, a gafwyd drwy fod yn ymroddedig i’w hymagweddau unigryw at arfer ffotograffig cyfoes.  

Ar ran y staff Ffotograffiaeth yng Ngholeg Celf Abertawe, hoffwn longyfarch y myfyrwyr ar gynhyrchu cyrff mor amrywiol a diddorol o waith a dymunwn bob llwyddiant iddynt yn y dyfodol.  

  

Ryan L. Moule 

Ffotograffiaeth Ddogfennol a Gweithredaeth Weledol