MA Dialogau Cyfoes

'RHYWBETH TORFOL'

Mae’r MA Dialogau Cyfoes yn cynnig profiad ôl-raddedig unigryw, gan fod artistiaid a dylunwyr o lwybrau arbenigol yn elwa o amgylchedd ymchwil o ddysgu rhyngddisgyblaethol. Mae’r flwyddyn hon yn unigryw gan fod rhan fwyaf yr arddangoswyr yn fyfyrwyr llawn amser a fyddai fel arfer yn arddangos a chwblhau ym mis Ionawr. O ganlyniad i’r pandemig, cynigiwyd y cyfle iddynt ymestyn eu prosiectau arfer terfynol tan hyn.  

Penderfyniad anodd gyda grŵp mor fawr â hyn yw meddwl am enw i’r arddangosfa y mae pawb yn cytuno arno. Gwnaethom gytuno ar syniad a grybwyllwyd yn anfwriadol, sef – ‘Rhywbeth Torfol’ – gyda’r gobaith y gall ein helpu, fel grŵp o artistiaid gwahanol a dieithriaid y cyfnod clo, i wneud… Rhywbeth Torfol. Rydym yn credu bod Rhywbeth Torfol wedi cynhyrchu rhywbeth ardderchog. 

Mae’r grŵp wedi goresgyn cyfyngiadau sylweddol gyda gwydnwch a chreadigrwydd i gynhyrchu ystod ryfeddol o waith amrywiol, pryfoclyd a blaengar sy’n adlewyrchu’n gelfydd ethos ac athroniaeth y rhaglen. 

Cath Brown a Hamish Gane  

Rheolwyr Rhaglen

DYLUNIO GRAFFIG

DYLUNIO DIWYDIANNOL

DYLUNIO CYNNYRCH & CHELFI