Darlunio

BA (Anrh) Darlunio

Mae dosbarth ’22 wedi dioddef treialon na welodd graddedigion y gorffennol mo’u math a gobeithiwn na welwn mo’u math eto. Mae mwyafrif eu profiad prifysgol wedi’i gymylu gan gysgod covid, cyfnodau clo a dysgu o bell.  

Er gwaethaf hyn, mae darlunio wedi codi’r cysgod hwnnw. Trwy hanesion wedi’u hadrodd am robotiaid a bwystfilod, llyfrau darluniau’n ymdrin ag amgylchiadau cymhleth ac anodd, dwdls mympwyol a mwy, mae ein graddedigion wedi defnyddio eu sgiliau gwneud delweddau i wneud synnwyr o’u hamgylchedd. 

Trwy gydol eu hamser yn Abertawe, mae’r graddedigion wedi darganfod eu ‘llais darluniadol’. P’un a yw hynny trwy ffyrdd digidol o wneud delweddau neu ddulliau traddodiadol, yr un yw’r gôl yn y pendraw, gwaith celf craff, sydd weithiau’n bryfoclyd ond bob tro’n ysbrydoledig.