Wrth baratoi i hwylio, gan gael eu llywio efallai gan y sêr sy’n eu cynrychioli yma ar ffurf graffig, mae’r graddedigion hyn wedi’u creu mewn cyfnod anodd. Yn wir, mae’r cyfeillgarwch rhyngom, yn seiliedig ar y ffaith ein bod ‘i gyd yn yr un cwch’, wedi helpu i’n cario drwy’r storm gyda’n gilydd, ac rydym wedi cael ein cadw uwchben y dŵr gan gariad cyffredin at yr iaith graffig a ddefnyddiwn i gyfathrebu.
Mewn byd cyfnewidiol, pegynol, mae’n galonogol bod cynifer o’r prosiectau a arddangosir yma yn dangos y myfyrwyr yn dod o hyd i’w lleisiau dwfn a phwerus eu hunain, gan ddatgan yn falch fod gan Ddylunio Graffig y gallu i hysbysu, wynebu ac egluro.
Ond nid chwyldro mohono i gyd. Mae prosiectau ergydiol yn cael eu cydbwyso gan hyder masnachol digywilydd – ymdrinnir â’r emosiynol a’r rhesymegol gyda’r un faint o ddeallusrwydd a chynildeb dylunio. Mae’r uwch-dechnoleg a’r is-dechnoleg yn cael eu gwerthfawrogi’n gyfartal, lle gall meistrolaeth ar feddalwedd fod yn llai pwysig weithiau na hyfrydwch inc ar fysedd neu arogl paent chwistrellu.
Bydd y stiwdios yn sicr yn dawelach hebddynt, a byddwn yn gweld eisiau eu cwmni, eu sgwrs a’u chwerthin. Maent yn gadael harbwr Coleg Celf Abertawe gyda’n dymuniadau gorau a’n gobeithion mwyaf, lle bynnag y bydd yr awel neu’u huchelgais yn eu cario. Ymunwch â ni i ddathlu eu creadigrwydd cyfunol – maent ar fin Gwasgaru.
Tîm y Staff