Mae’r myfyrwyr Celf Gain sy’n graddio eleni’n cynnwys un deg un o unigolion sy’n defnyddio ystod amrywiol o ddulliau ar gyfer arfer y celfyddydau gweledol. Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae trafodaethau o fewn y grŵp wedi cyffwrdd â llawer o faterion cyfredol, o’r rhywiau a hunaniaeth rywiol i Mae Bywydau Du o Bwys, o ailystyried arteffactau diwylliannol i gyd-destun cymdeithasol a pherthnasedd celf. Wrth gwrs, mae’r trafodaethau hyn, yn ogystal ag astudiaethau o artistiaid hanesyddol a chyfoes, yn eu tro wedi hysbysu eu gwaith, gan arwain at sioe raddio heriol sy’n ysbrydoli.
Yn y byd sydd ohoni o bresenoldeb digidol hollbresennol, a ddwysawyd gan bandemig Covid, mae’n ddiddorol gweld archwiliad pob myfyriwr o swyddogaeth ac iaith materoldeb. Maent yn cyflwyno paentiadau, gosodweithiau, cerfluniau, perfformiadau byw a rhai a recordiwyd, adeiladweithiau rhyngweithiol, collage, ffotograffiaeth a thestun.
Mae modd gweld gwaith myfyrwyr eleni a blynyddoedd blaenorol hefyd ar y wefan benodol ar gyfer rhaglen Celf Gain Coleg Celf Abertawe: https://swansea.art/
Y Tîm Celf Gain
Coleg Celf Abertawe Mai 2022