Rydym yn falch i gyflwyno graddedigion 22 y rhaglenni BA Dylunio Crefftau a BA Gwydr ar gyfer arddangosfa ‘Gwnaed yn…’
Mae’r sioe yn gymysgedd eclectig o waith sydd wedi’i gyflawni’n dda gan y grŵp newydd hwn o wneuthurwyr cyffrous. Dyma’r arddangosfa bywyd go iawn gyntaf ar gyfer Crefftau Dylunio, sy’n dal i fod yn ei fabandod, felly mae’n flwyddyn arbennig iawn i ni ar ôl cymaint o gyfnodau clo ac arddangosfeydd ar-lein. Heb os, mae’r myfyrwyr wedi derbyn yr her ac wedi gweithio’n galed i gyflwyno i chi arddangosfa oriel broffesiynol yn llawn cerameg arbrofol, cyfryngau cymysg, tecstilau, gwydr, metel ac enamel.
Gall myfyrwyr y cwrs ddewis eu cyfeiriad eu hunain boed yn wydr, cerameg, gemwaith neu’n gyfuniad o gyfryngau. Mae peth o’r gwaith yn gysyniadol, peth wedi’i arwain gan ddeunydd, eraill â sensitifrwydd dylunio ac esthetig cryf. Fodd bynnag, mae’r holl waith yn dathlu cariad at wneud a materoldeb.
O gerfluniau gwydr siwgr bregus tu hwnt Emma Martins i ddisgiau gwydr arloesol tywynnu yn y tywyllwch Sophia Henrys sydd wedi’u paentio â llaw i godi ymwybyddiaeth o rywogaethau mewn perygl difrifol. O lestri tywyll a diddorol Bethany Coram sy’n cynnwys ystod o ffobiâu i arteffactau estron cerameg ac edafedd lliwgar a chwareus Carwyn Llewelyn. Gwelwn gadwyn defnydd maint ystafell gan Sam Mathias fel archwiliad i obsesiwn a lluosrifau, cannoedd o ddolenni yn dangos amynedd gofalus yn y gwaith llafurddwys hwn sy’n gwneud i chi ddychmygu gemwaith ar gyfer cewri. Cymerir llestri Kate Scales o ddelweddau o grwpiau o bobl wrth iddi archwilio’r syniad o gynhwysiant a dod ynghyd. Mae’r stori’n parhau gyda Megan Jamieson a gyflwynodd ei sioe er cof am y fferm y cafodd ei magu arno, yn ddathliad hyfryd o le a chof. Gweithia Meg gyda defnyddiau cynaliadwy a phalodd ei chlai ei hun ar y fferm i greu ei llestri gweadog, sy’n gwneud y darnau a’u cysylltiad i le yn fwy teimladwy fyth.
Llongyfarchiadau i raddedigion ’22, dymunwn yn dda i chi yn eich gyrfa yn y dyfodol fel gwneuthurwyr talentog, bu’n bleser gweithio ochr yn ochr â chi ar y daith hon.
Y Tîm Crefftau Dylunio a Gwydr.