Sgroliwch I Lawr
Sgroliwch I Lawr
Sgroliwch I Lawr
BA Dylunio Patrwm Arwyneb
Mae Sophie yn ddylunydd tecstilau printiedig ar gyfer ffasiwn, mae hi’n creu patrymau digidol a phrintiau trwy ddelweddaeth a lliwiau chwareus. Cafodd y casgliad hwn ei ysbrydoli gan ddiwylliant caffi Yr Eidal a bar y gwneuthurwr ffilmiau Wes Anderson ‘Luce’ ym Milan.
Mae Sophie wedi cyfuno golygfeydd ysbrydoledig o fywyd caffi gyda lluniau bywyd llonydd y byddech fel arfer yn eu ffeindio mewn caffi traddodiadol yn Yr Eidal. Mae hi wedi archwilio hyn trwy ymchwil gwreiddiol, gan fraslunio gyda llinellau mân parhaus a phaentio gyda gouache i ddod â’i helfen ddylunio unigryw i’w phatrymau.
Ei nod ar gyfer y casgliad hwn oedd arddangos amrywiaeth o ddyluniadau ffasiwn printiedig a defnyddio’i hymagwedd ei hun i ddathlu bywyd traddodiadol bywyd Yr Eidal, gan ddefnyddio palet lliw Bar Luce.
Mae Sophie yn credu bod y prosiect hwn wedi cryfhau ei hyder fel dylunydd tecstilau printiedig trwy brofi ei medrau digidol, yn arbennig yn ddiweddar. Bydd hyn yn ei helpu’n fawr wrth fynd i’r byd dylunio a chwilio am waith.