Mae dosbarth 2022, grŵp o ddarpar Ddylunwyr Modurol a Thrafnidiaeth talentog sydd wedi dod trwy’r tair blynedd heriol ddiwethaf yn llwyddiannus, yma i arddangos eu gwaith amrywiol a’u creadigrwydd.
Yma i ail-ddychmygu cerbydau’r dyfodol ac iaith ddylunio, i ymdrin â’r heriau amgylcheddol rydym oll yn ei wynebu yn y dyfodol agos a’r dyfodol pell; i wthio ffiniau peirianneg a datrys problemau ergonomig, ymchwilio i ddefnyddiau newydd, a gwella ystod a rhyngweithio cymdeithasol.
Mae tair blynedd o waith caled wedi bod gwerth y drafferth, dysgu sut i ddarlunio, sut i rendro, sut i ddefnyddio meddalwedd 3D safon ddiwydiannol, sut i gerflunio, sut i ymchwilio, sut i gael eu hysbrydoli, sut i feddwl tu allan i’r bocs, sut i fod yn feiddgar.
Mae’n gyrhaeddiad gwych ar gyfer y myfyrwyr hyn, ac yn ddechrau taith ardderchog.
Mae’n fraint enfawr i mi a’r tîm allu bod yn dystion iddo wrth ddathlu 200 mlynedd o Addysg.
Dymunwn bob lwc iddynt gyda’u gyrfaoedd yn y dyfodol.
Sergio Fontanarosa – Rheolwr Rhaglen