Wrth wrando ar gyfres podlediad ‘Consumed by Desire’ Philippa Perry, cefais fy ysbrydoli i ddefnyddio’r thema hwn fel teitl prosiect arddangosfa diwedd blwyddyn ein myfyrwyr. Fel grŵp, gwnaethom i gyd gwrando ar y tair rhaglen a’u trafod; mae’r myfyrwyr wedi creu ymatebion unigol.
Mae enghreifftiau o ymatebion a ddychmygodd y myfyrwyr yn cynnwys cyfeillach a diogelwch mewn mannau cymdeithasol, materion moesegol ecsbloetiaeth, yr awydd i ffitio mewn a pheidio â bod yn finiog na lletchwith mewn lle dynodedig ac ymblesera mewn patrymau llaw rhydd, yn dangos cariad a rhyfeddod.
Mae’r defnyddiau a chyfryngau a ddefnyddiwyd gan fyfyrwyr i fynegi eu syniadau yn cynnwys sain, print, pwyth, a darlunio.
Kath Clewett Rheolwr Rhaglen