Ar gyfer eu blwyddyn olaf, bydd ein myfyrwyr yn ymgysylltu â thri modiwl cysylltiedig sy’n llunio’r stiwdio ddylunio ar gyfer y drydedd flwyddyn. Eleni lleolwyd y prosiectau yn nhref Pontypridd:
Stiwdio 3A – Rhoddwyd safle wag i’n myfyrwyr, rhwng yr afon a’r stryd fawr, yn agos i’r llyfrgell gyhoeddus newydd ym Mhontypridd. Gofynnwyd i fyfyrwyr gynnal astudiaeth o’r dref a chynhyrchu uwchgynllun ar gyfer ailddatblygu’r safle. Yna, roedd rhaid i bob myfyriwr gynhyrchu brîff ar gyfer prosiect adeiladu o’u dewis, i’w leoli ar eu huwchgynllun.
Stiwdio 3B – Datblygodd y myfyrwyr ddyluniad eu dewis brosiect ynghyd ag adroddiad technegol yn pwysleisio nodau dylunio’r prosiect a sut mae’n ymateb i’w brîff manwl.
Stiwdio 3C – Bydd myfyrwyr yn datblygu eglurdeb technegol eu dyluniad, gan ddatblygu iaith ddylunio gydlynol a manylion adeiladu.
Mae’r cynlluniau a geir yn y sioe rithwir yn dangos ystod o fathau o adeiladau ac amrywiaeth o ymatebion dylunio.
Paul Harries – Mai 2022